Er yn dal yn ieuanc fel tir coediog mae’r safle yn llawn o fywyd gwyllt prysur drwy’r flwyddyn. Cawn ein synnu’n aml gan y gymysgedd o rywogaethau. Mae creu ardaloedd agoriadol wedi annog tyfiant o rug a llus sydd yn dennu cacynod a pryfetach eraill. Yn 2025 gwelwyd Madfall a lawer o fursenod a gweision neidr.
Mae nifer o rywogaethau o adar wedi ei gweld neu eu clywed. Ymysg rhain mae Tylluan frech, Cnocell lwyd Fawr, Titw, Dryw Penaur a llawer o Deloriad.
Mae camerau wedi dangos digwyddiadau yn ystod y nos, sef llwynogod yn rhedeg, moch daear yn tyrchu, ffwlbart, dau gyffylog ger y ffrwd ac ysgyfarnog yn pori.