Hanes y safle

Pam Milner, woodland manager

Pam Milner, rheolwr coetir

Coedlan breifat yng nghannol Cerediion yn cael ei gwarchod gan wirfoddolwyr sydd yn defnyddio dulliau traddodiadol at y gwaith. Cyflogir gontractwyr lleol ar brydiau a defnyddior defnyddiau lleol yn aml. Er bod y goedlan in ieuanc mae eto yn gymysgedd o goed lleol a rhai myw estron.

Ein bwriad yw gwneud Rhosmaen Crug (RmCw) yn coedlan gynaladwy trwy gynyddu mewngyrch y gymuneb , annog bioamriwiaeth a chymeryd sylw o effaith newidiadau’r hinsawdd a gofalu am ddiogelwch ein gweithwyr. Trwy hyn gellir diogelu’r  safle I genedlaetholau  y dyfodol, a chreu amgylchedd atyniadol trwy gymirth gwirfoddolwyr.

Nid yw’r goedlan yn agored i’r cyhoedd  ond croesha\wn ymwelwyr o bryd iw gilydd. Mae gofyn cyfyngu’r nifer o ymwelwyr ar brydiau.

Cysylltwch a ni os hoffech ymweld, ymuno a’r gwirfoddolwyr neu roi cymorth mwen ynrhyw ffordd arall.
 

Time spent amongst trees is never wasted time.

— Katrina Mayer


 

Y Prosject: RmCw Enhancement for the Community and Sustainability

Mae’r gwaith yn rhedeg o Fedi 2004 I Orffenaf 2006.  Ariennir y prosiect hwn gan gynllun y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG). Mae'n cael ei ddarparu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a'u Rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru.

 



Mae’r gwaith yn cynwys gwellhau’r ffordd I mewn a sefydlu cyfleusterau. Gwahoddir pobl leol i ymuno a ni. Y nod ar gyfer y goedlan yw ymuno a Chynllyn Coedwig Genedlaethol Cymru.
 

Gwirfoddolwyr a’r Gwaith

Mae gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith cynnal a chadw trwry’r flwyddyn i ddatblygu coedlan amrywiol i'r gymdogaeth ac i’r bywyd gwyllt. Maent yn atgyweirio ac yn agor llwybrau, tyneuo a thori coed fel bo angen yn yr hydref a’r gaeaf gan glirio mieri ac yn y blaen. Gwneir defnydd o’r coed fel, e.e., pyst ffensio ar brydiau. Byddwn yn gwneud arolygon tir a bywyd gwyllt o dro i dro.

Mae’r gwirfoddolwyr yn cynal a datblygu’r coetir trwy’r flwyddyn fel bo angen. Cysylltwch a ni yn uniongyrchol neu trwy Facebook.

A volunteer clearing brash

Catherine Moyle, gwirfoddolwraig ac arweinydd ysgol goedwig

Maeve Moran, volunteer, maker & editor

Maeve Moran, gwirfoddolwr, gwneuthurwr a golygydd

Datblygiad Rhosmaen Crug

Ailblanwyd y safle rhwng 1998 a 2000 gan y tirfeddiannwr a’i diweddar wr ar ol i’r Comisiwn Coedwigaeth fwrw eu blanhigfa o goed bythwyrdd Sitka. Planwyd rhywogaethau lleol – Derwen, Onnen, Helyg a Gwernen. Hefydrhai Ffawydden a Castanwydden Ber. Hefyd rhai coed bythwyrdd, sef Ywen a Merywen. O’r dechrau, bioamrywiaeth a lles bywyd gwyllt oedd y prif fwriad  gyda mwynhau y safle a chael coed tân.

Y gwaith cyntaf oedd cael gwared o’r mieri ac agor llwybrau. Dechreuodd y Sitka ail dyfu a daeth llawer o Helyg a Cherddinenau i mewn hefyd. Torir y Sitka o bryd iw gilydd I agor llecynnau i’r coed eraill dyfu.

Clirwyd darn bach o dir yn 2018 ac erbyn hyn mae Grug a Llus yn denu llawer o bryfetach yno.

 

Amserlin
1950sPlanhigfa’r Comisiwn yn cael ei sefydlu.
1997Cyneuhafu’r coed Sitka gan y Comisiwn.
1998Pam yn prynu’r safle!
1998 – 2000Ail blanu, ffensio a llidiart newydd.
2001 – 2017Gwaith bioamrywiaeth gyda cymorth cymdogion.
2018 – 2023Bu farw Ken. Ymunodd Pam a Chymdeithas Coetiroedd Bychan. Rhoddwyd posteri yn lleol ac yn Aberystwyth yn tynnu sylw at y gwaith a dechrewyd grwp "WhatsApp".
2024Gwnaed cais am arian i TWIG ym mis Mawrth a chafwyd grant ym Mai.
Medi 2024 – Mehefin 2026Prosiect TWIG  Rhosmaen Crug.